Parc Cendlaethol Bannau Brycheiniog
Gwefan newydd ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Trosolwg
Mae Bannau Brycheiniog yn barc cenedlaethol yng Nghymru, sy’n adnabyddus am ei thirweddau mynyddig dramatig, ei harddwch naturiol, a’i hanes cyfoethog. Fe’i hadnabyddid gynt fel y Brecon Beacons, ond yn ddiweddar dychwelodd y parc at ei enw Cymraeg fel rhan o ailfrandio ehangach.
Comisiynwyd Pobl i ail-ddylunio ac ail-ddatblygu dau wefan ar gyfer y parc.
Y gyntaf yw gwefan ymwelwyr newydd sbon, wedi’i chynllunio i arddangos popeth sydd gan y parc i’w gynnig. Mae’n helpu pobl i ddod o hyd i bethau i’w gwneud, llefydd i aros a bwyta, a chael mynediad at y wybodaeth allweddol sydd ei angen i gynllunio a mwynhau eu hymweliad.
Yr ail yw gwefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r platfform hwn yn darparu gwybodaeth hanfodol am sut mae’r parc yn cael ei reoli, ynghyd â gwasanaethau ac adnoddau ar gyfer preswylwyr, busnesau, a rhanddeiliaid.
Beth wanaethom ni
Dylunio Gwe a UX (Profiad y Defnyddiwr)
Datblygu Gwe
Gweithredu CMS WordPress
Datblygu Gwefan Ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
Hygyrchedd (Cydymffurfiaeth WCAG)
Integreiddio Systemau (Archebu, Rhoddion a Gwasanaethau)
Integreiddio APIau a Rheoli Data